Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Rheoli Grantiau yng Nghymru – Adroddiad Interim

 

Rydym yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad ac yn cynnig yr ymatebion canlynol i’r pymtheg argymhelliad a geir ynddo.

 

 

Argymhelliad 1:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob grant wedi’i adolygu fel rhan o’r Rhaglen Rheoli Grantiau, i sicrhau mai dyna’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni amcanion y Gweinidogion erbyn 31 Rhagfyr 2013.

 

Ymateb: Derbyn. 

 

Mae’r Rhaglen Rheoli Grantiau wedi adolygu pob grant a oedd ar waith yn 2011/12. Mae’r adolygiadau wedi cynnwys y meysydd i’w gwella ac wedi nodi’r arferion gorau y dylid eu rhannu. Mae’r broses adolygu hefyd wedi ystyried ai’r mecanwaith cyllido a ddefnyddir ar hyn o bryd yw’r ffordd fwyaf priodol o gyflawni amcanion y Gweinidogion. Mae’r adolygiadau cychwynnol wedi’u cwblhau bellach ac mae adroddiadau lefel uchel, gan gynnwys argymhellion ar gyfer gwelliannau, wedi’u dosbarthu i adrannau unigol. Mae’r Rhaglen Rheoli Grantiau yn monitro’r cynnydd o ran rhoi’r argymhellion ar waith a darperir adroddiad i uwch swyddogion adrannol a’r Gweinidog perthnasol.

 

Mae’r Rhaglen Rheoli Grantiau hefyd wedi datblygu proses i adolygu’r holl grantiau newydd arfaethedig er mwyn sicrhau bod y prosesau’n cydymffurfio â’r canllawiau a gyhoeddir a’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni amcanion Gweinidogion. Mae hon yn broses orfodol y mae’n rhaid ei chynnal cyn y gellir cofnodi’r grant ar y system gyllid. Bydd yr adolygiadau’n nodwedd barhaus o waith rheoli grantiau Llywodraeth Cymru.

 

 

 

Argymhelliad 2:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y rhychwant eang o opsiynau cyllido sydd ar gael wrth iddi adolygu effeithiolrwydd y grantiau presennol.

 

Ymateb: Derbyn. 

 

Mae’r adolygiad cyfredol o grantiau gan y Rhaglen Rheoli Grantiau wedi cynnwys asesiad o’r mecanwaith cyllido cyfredol i ganfod ai dyma’r ffordd fwyaf priodol o wneud hynny o dan yr amgylchiadau. Mae’r Rhaglen wedi darparu cyngor ar y rhychwant o opsiynau cyllido sydd ar gael fel rhan o’r broses hon. Mae’r adolygiad o grantiau newydd hefyd yn cynnwys ystyried opsiynau cyllido amgen ac mae’n nodi’r mecanwaith cyllido mwyaf effeithiol a chywir i gyflawni amcanion Gweinidogion. Mae’r gwaith hwn yn canolbwyntio ar sicrhau’r gwerth gorau am arian.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pwyslais yn cael ei roi ar werthusiadau tair blynedd o effeithiolrwydd cynlluniau grant presennol. Bydd y Rhaglen Rheoli Grantiau yn sicrhau bod y posibilrwydd o ddefnyddio opsiynau cyllido amgen yn cael ei gynnwys yn y broses werthuso. Ar ôl cwblhau’r broses, bydd y Gweinidog perthnasol yn adolygu’r gwerthusiad ac yn penderfynu ar unrhyw gamau gweithredu dilynol.

 

 

 

Argymhelliad 3:

 

Ymateb: Derbyn.

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau i’r awdurdodau lleol, i sicrhau eu bod yn ystyried y rhychwant eang hwn o ddulliau cyllido (gan gynnwys grantiau a chomisiynu cydweithredol) er mwyn sicrhau bod amcanion dymunol yn cael eu cyflawni.

 

Gan weithio drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael canllawiau er mwyn sicrhau bod y mecanwaith cyllido mwyaf priodol yn cael ei ddefnyddio i geisio cyflawni amcanion a chanlyniadau dymunol.

 

Mae CLlLC yn bwriadu gweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar eu digwyddiadau arferion da a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus eraill fel Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar briodolrwydd cyllid grant o gymharu â mecanweithiau eraill. Byddwn yn dechrau ar y gwaith hwn ar unwaith ac yn gobeithio ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2013.

 

 

 

Argymhelliad 4:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr arferion da mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig wrth fynd i’r afael â heriau ymarferol trosglwyddo grantiau penodol i’r setliad cymorth refeniw cyffredinol.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Gan ystyried blaenoriaethau Gweinidogion Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried yr arferion da a geir mewn mannau eraill yn y DU er mwyn mynd i’r afael â heriau ymarferol o ran trosglwyddo grantiau penodol i’r setliad cymorth refeniw cyffredinol. Byddwn yn gwneud ymholiadau penodol i weld yr hyn y mae ein cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban wedi’i ddysgu a’r profiadau a gawsant wrth sicrhau’r cydbwysedd gorau rhwng grantiau wedi’u neilltuo a grantiau heb eu neilltuo.

 

Yn y “Compact ar gyfer Newid rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru” a gafodd sêl bendith y Cabinet ym mis Tachwedd 2011, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i “geisio lleihau nifer y grantiau penodol a’r arian sydd wedi’i neilltuo”.  Fel rhan o setliad dros dro llywodraeth leol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar 16 Hydref 2012, mae saith grant penodol wedi’u trosglwyddo i’r setliad ar gyfer 2013-14, sy’n gyfwerth â dros £91 miliwn o gyllid a ddyrannwyd yn flaenorol drwy grantiau penodol.

 

Yn ôl y Protocol Grantiau, sy’n nodi’r dull ar gyfer gostwng nifer y grantiau penodol, rhaid i bob grant gael strategaeth ymadael. Cytunodd Grŵp Llywio Polisi Diwygio Llywodraeth Cymru gynnal ymarfer i adolygu’r strategaethau ymadael ar gyfer pob grant wedi’i neilltuo. Bwriedir cychwyn yr adolygiad yn Hydref 2012. Yna, bydd y Grŵp Llywio Polisi Diwygio yn ystyried y wybodaeth a gesglir o’r adolygiad hwn a defnyddir y wybodaeth i lunio cyngor ar y cyd i Weinidogion ar y defnydd effeithiol o grantiau i gefnogi’r agenda diwygio gwasanaethau cyhoeddus ehangach cyn y setliad nesaf.

 

 

 

Argymhelliad 5:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu targed o beidio â gwario mwy na 5% o gyfanswm ei chyllid grant ar weinyddu grantiau.

 

Ymateb: Derbyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod gostwng costau gweinyddu yn briodol ar gyfer rheoli grantiau ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau bod y cyfrannau uchaf posibl o gyllid yn cael eu gwario ar ddarparu gwasanaethau. Bydd y Rhaglen Rheoli Grantiau yn gweithio’n agos gyda rheolwyr grantiau i gytuno ar ddiffiniad clir o gostau gweinyddu erbyn mis Rhagfyr 2012. Bydd hyn yn ystyried canfyddiadau a chasgliadau adolygiad a gomisiynwyd gan Drysorlys EM ar gostau gweinyddu grantiau. Bydd y gost wirioneddol o weinyddu grantiau yn cael ei seilio yn unol â’r diffiniad hwn a bydd y Rhaglen Rheoli Grantiau yn gweithio gyda’r rheolwyr grantiau i gadw’r costau hyn mor isel â phosibl ar draws y sefydliad. Cytunwyd ar darged o 5% fel cyfartaledd priodol ar gyfer y rhychwant cyfan o grantiau. Byddwn yn nodi’r cynnydd o ran cyflawni’r targed hwn ar ôl cytuno ar y llinell sylfaen.

 

Argymhelliad 6:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod rheolwyr yn gwneud penderfyniadau amserol ynghylch parhau neu orffen cyllid grant, a’u bod yn gorfod cadw at ei Chod Ymarfer ar gyllid i’r trydydd sector.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn deall bod angen iddi wneud penderfyniadau mwy amserol ynghylch parhau neu orffen cyllid grant. Bydd y gofyniad hwn yn cael ei gynnwys mewn canllawiau ac yn yr hyfforddiant gorfodol sy’n cael ei roi i reolwyr grantiau ar draws y sefydliad.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod rheolwyr grant yn cadw at ei Chod Ymarfer ar gyllid i’r Trydydd Sector. Defnyddiwyd y rhwydwaith mewnol yn ddiweddar i hysbysu’r holl staff o bwysigrwydd y Cod Ymarfer. Bydd y Rhaglen Rheoli Grantiau yn sicrhau y bydd y Cod Ymarfer yn cael sylw priodol ym mhob penderfyniad sy’n ymwneud â datblygu, diwygio a chwblhau cyllid grant.

 

Rydym yn cydweithio â’r sector ar weithredu’r Cod Ymarfer drwy Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.

 

Argymhelliad 7:

 

Rydyn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar reoli grantiau. Dylai hwnnw gynnwys y cynnydd tuag at ei tharged ar gyfer costau gweinyddu a manylion unrhyw enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyllid i’r trydydd sector.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod angen datblygu adroddiad blynyddol ar reoli grantiau. Fodd bynnag, nid oes ganddi system TG ar hyn o bryd a fyddai’n gallu casglu a choladu’r holl wybodaeth ofynnol. Fodd bynnag, bwriedir cyflwyno system TG rheoli grantiau ganolog fel rhan o’r Rhaglen Rheoli Grantiau. Bydd gweithredu’r system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid hon yn darparu’r wybodaeth reoli sydd ei hangen ar Lywodraeth Cymru i’w galluogi i lunio’r adroddiadau a argymhellir.

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hadroddiad rheoli grantiau blynyddol cyntaf yn gynnar yn Hydref 2013 yn dilyn trafodaethau â Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

 

Argymhelliad 8:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu prawf busnes tryloyw, cymesur a chyson i benderfynu a ddylai taliadau grant gael eu gwneud ymlaen llaw i sefydliadau.

 

Ymateb: Derbyn.   

 

Mae adolygiadau’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau o bob cynllun grant wedi amlygu anghysondeb wrth drin taliadau ymlaen llaw. Mae wedi gweithio’n agos gyda Phwyllgor Cyllid a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i ddatblygu templed taliadau ymlaen llaw ar gyfer sefydliadau trydydd sector. Mae’n hawdd cwblhau’r templed hwn ac mae’n darparu prawf busnes cyson er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i bennu a oes angen i daliadau grant gael eu gwneud ymlaen llaw. Mae’r templed hwn eisoes wedi’i weithredu ledled Llywodraeth Cymru a bydd ei ddefnydd yn cael ei adolygu mewn chwe mis er mwyn pennu a oes unrhyw broblemau wedi codi. Byddwn yn trafod a chytuno ar unrhyw ddiwygiadau gofynnol gyda’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau ac is-bwyllgor Cyllid Partneriaeth y Trydydd Sector cyn eu rhoi ar waith.

 

 

 

Argymhelliad 9:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflymu ei gwaith i ddatblygu amrediad o delerau ac amodau safonedig ar gyfer mathau penodol o brosesau caffael.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datblygu telerau ac amodau safonol ar gyfer llythyrau dyfarnu grantiau a chontractau caffael ar ôl cael cyngor gan gydweithwyr Cymorth Gwladwriaethol a Gwasanaethau Cyfreithiol. Rydym yn derbyn nad yw’r telerau ac amodau safonol yn briodol ar gyfer pob rhaglen gyllido ac mae angen bod yn hyblyg wrth weithredu’r amodau hyn. Mae’r telerau ac amodau safonol ar gyfer cyllido yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i reolwyr er mwyn sicrhau y gellir eu diwygio i fod yn addas ar gyfer amgylchiadau penodol y cyllid.

 

Mae’r llythyr dyfarnu safonol gyda thelerau ac amodau cysylltiedig wedi’i roi ar waith ar gyfer grantiau a ddyfernir neu a adnewyddir yn 2012/13. Mae’r llythyr wedi’i drafod yn fanwl â’r is-bwyllgor Cyllid Partneriaeth y Trydydd Sector ac mae wedi’i ddiwygio i adlewyrchu eu sylwadau. Bydd y llythyr dyfarnu’n cael ei ddefnyddio fel safon ar gyfer cyllid grant 2013/14, gan sicrhau bod y fformat a’r prif amodau yr un fath ar gyfer yr holl sefydliadau sy’n derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru.

 

 

 

Argymhelliad 10:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu un pwynt cysylltu i roi cyngor ar geisiadau am gyllid (gan gynnwys grantiau, ymhlith pethau eraill).

 

Ymateb: Derbyn.  

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau, rhan o’r Rhaglen Rheoli Grantiau, fel un pwynt cysylltu i’n staff ar gyfer pob cyllid ac eithrio caffael. Gwerth Cymru yw’r un pwynt cysylltu o hyd ar gyfer gweithgareddau caffael mewnol ac allanol.

 

Rydym wedi nodi’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau fel yr un pwynt cysylltu ar grantiau ar gyfer sefydliadau allanol. Bydd yn darparu cyngor i sefydliadau allanol a’u cynorthwyo i lywio drwy ddryswch cyllido a’u cynghori ar y swyddog mwyaf priodol yn Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gydag ymholiadau manylach. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau yn parhau yn swyddogaeth ganolog ar ôl cwblhau’r Rhaglen Rheoli Grantiau a byddwn yn darparu’r cymorth hwn yn yr hirdymor.

 

 

 

Argymhelliad 11:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddwyn i gyfrif yr awdurdodau lleol sydd â chyfradd uchel o hawliadau grant yn cael eu hamodi neu eu haddasu. Fel rhan o hyn, fe allai Llywodraeth Cymru ystyried dal cyllid yn ôl oddi wrth awdurdodau lleol os na fydd amlder yr amodau ar hawliadau grant yn gwella.

 

Argymhelliad 12:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd rhan mewn deialog gyda CLlLC tuag at ostyngiad yn amlder yr hawliadau grant gan yr awdurdodau lleol sy’n cael eu hamodi. Dylai hyn gynnwys sicrhau bod CLlLC:

- yn mynd ati i rannu’r arferion gorau;

yn helpu’r awdurdodau gwael eu perfformiad; ac

yn sicrhau nad yw’r awdurdodau hynny (yn arbennig yn y chwartel o’r awdurdodau sydd â’r gyfradd uchaf o amodau ar eu hawliadau grant a’u ffurflenni) yn arwain ar hawliadau grant rhanbarthol.

 

Ymateb:  Derbyn y ddau argymhelliad.

 

Mewn deialog â Swyddfa Archwilio Cymru, CLlLC ac awdurdodau lleol unigol, bydd Llywodraeth Cymru yn olrhain yr achosion o hawliadau grant yn cael eu hamodi neu eu haddasu. Fel rhan o hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei gofynion a chyfarwyddiadau ar gyfer ardystio grantiau er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n briodol. Erbyn mis Rhagfyr 2012, bydd Llywodraeth Cymru yn cwblhau fframwaith newydd arfaethedig ar gyfer ardystio grantiau i’w roi ar waith o fis Ebrill 2013.

 

Gan weithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn olrhain patrymau o gymwysterau ardystio grantiau a sicrhau bod camau unioni’n cael eu cymryd. Byddai hyn yn cynnwys ystyried gohirio neu adennill grantiau lle nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod ymatebion awdurdodau lleol unigol yn ddigonol.

 

Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda CLlLC er mwyn sicrhau gostyngiad yn amlder hawliadau grant sy’n cael eu hamodi. Bydd y fframwaith newydd arfaethedig yn cynnwys metrigau a thargedau cytun sydd wedi’u llunio at y diben hwn a bydd yn cynnwys meini prawf ar gyfer yr amodau ar gyfer arwain ar hawliadau grant rhanbarthol.

 

Bydd CLlLC yn nodi’r arferion da sy’n bodoli ac yn defnyddio porth gwe Arfer Da Cymru i roi gwybod am astudiaethau achos.

 

Bydd CLlLC hefyd yn gweithio gyda CIPFA i ddiweddaru’r cyhoeddiad Delivering Good Governance in Local Government a nodi hyfforddiant addas ar reoli grantiau ar gyfer swyddogion llywodraeth leol.

 

 

 

Argymhelliad 13:

O gofio’r angen am gymesuredd a phrosesau caffael priodol, rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnwys, yn ei thelerau a’i hamodau ynglŷn â grantiau a mathau eraill o gyllid, ofyniad bod rhaid i’r sefydliad sy’n derbyn y cyllid gymryd rhan yn y Fenter Dwyll Genedlaethol.

 

Ymateb: Derbyn.  

 

Mae’r Fenter Dwyll Genedlaethol (NFI) yng Nghymru’n cael ei gweithredu ar y cyd ag ymarferion NFI yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn gallu cyfateb data ar draws ffiniau cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi yn llwyr i’r NFI ers ei sefydlu ac mae’n parhau i ymgysylltu’n llawn â’r cyfleuster gwrth-dwyll pwysig a weithredir gan yr Archwilydd Cyffredinol yng Nghymru. Rydym yn derbyn yr egwyddor y dylai sefydliadau sy’n derbyn cyllid perthnasol gymryd rhan yn y Fenter Dwyll Genedlaethol (NFI) wrth i’r NFI gael ei chyflwyno’n raddol gan yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Yn ymarfer 2010/11, cymrodd 43 o gyrff sector cyhoeddus Cymru ran yn yr NFI 2010/11. Roedd y rhain yn cynnwys y cyfranogwyr gorfodol canlynol:

 

Yn ogystal â hyn, cymrodd Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Caerdydd ran yn yr NFI yn wirfoddol, ynghyd â Swyddfa Archwilio Cymru a chyflenwyr archwiliadau eraill a gontractwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol.

 

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi nodi ei fod am annog cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i gymryd rhan yn yr NFI yn ogystal â sefydliadau’r sector preifat pan fo hynny’n fuddiol a chymesur. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda’r Archwilydd Cyffredinol i annog sefydliadau y mae’n eu blaenoriaethu i gymryd rhan yn wirfoddol yn yr NFI. Mae cyfleuster ‘pwynt cymhwysiad’ newydd yn cael ei gyflwyno gan yr NFI o fis Hydref 2012 ac, yn benodol, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn awyddus i bob prifysgol yng Nghymru gymryd rhan drwy’r cyfleuster newydd hwn. Bydd Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â’r Archwilydd Cyffredinol a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn annog cyfranogiad holl brifysgolion Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cwblhau geiriad pŵer wrth gefn i’w gynnwys yn ei delerau ac amodau safonol ar gyfer grantiau i’w gwneud yn ofynnol i dderbynyddion grantiau, os ydynt yn cael eu gwahodd, i gymryd rhan yn yr NFI neu weithgareddau gwrth-dwyll eraill a nodir gan Lywodraeth Cymru.

 

Nid yr NFI yw’r unig offeryn gwrth-dwyll ar gyfer data sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae’n rhan bwysig o fentrau gwrth-dwyll Swyddfa’r Cabinet ac ar hyn o bryd mae’n pwyso a mesur a ddylai ddefnyddio offer paru data eraill sy’n cael eu datblygu a’u treialu gan adrannau Whitehall.

 

 

 

Argymhelliad 14:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru alluogi hyfforddiant achrededig parhaus i reolwyr grantiau. Fel rhan o hyn, rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru fonitro pa mor effeithiol yw’r rheolwyr grantiau wrth roi’r hyfforddiant ar waith.

 

Ymateb: Derbyn.  

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn datblygu hyfforddiant i reolwyr grantiau a fydd yn cynnwys elfen o ardystio. Bydd angen i bob rheolwr grantiau fynychu’r hyfforddiant a llwyddo mewn prawf i gadarnhau eu gallu i ymgymryd â rôl rheolwr grantiau. Ar hyn o bryd, mae’r hyfforddiant yn cael ei ddatblygu fel elfen sylfaenol o weithgareddau’r Rhaglen Rheoli Grantiau. Mae’r hyfforddiant cychwynnol i fod i ddechrau ym mis Tachwedd 2012, gan obeithio cwblhau hyfforddiant craidd erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.  Bydd yn rhaid i reolwyr grantiau presennol a darpar reolwyr grantiau gwblhau’r hyfforddiant gorfodol.

 

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, bydd y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau yn cynnal hapwiriadau o raglenni grantiau i sicrhau bod yr hyfforddiant wedi cael effaith gadarnhaol ar y dull o reoli grantiau.

 

Argymhelliad 15:

 

Rydyn ni’n argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid a roddir ar ffurf grantiau Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i ategu deilliannau sy’n gyson â’i hamcanion polisi strategol.

 

Ymateb: Derbyn.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu porth polisi sy’n sicrhau bod deilliannau ac amcanion clir yn perthyn i unrhyw bolisi a ddatblygir. Mae’r porth polisi yn golygu bod gweithrediad y polisi yn cael ei ystyried yn gynnar ac, os pennir bod cyllid grant yn briodol, fod y cyllid hwnnw’n cael ei ddefnyddio i gefnogi deilliannau priodol a nodir hyn yn glir yn y llythyrau cynnig grantiau.

 

Byddwn yn sicrhau bod yr holl gyllid grant yn cael ei werthuso yn rheolaidd yn y cyfnod monitro prosiectau unigol cyn talu hawliadau ac ar lefel rhaglenni bob tair blynedd. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau yn cynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod deilliannau polisi yn cael eu mesur a’u cofnodi. Pan nad yw deilliannau polisi yn cael eu cyflawni mwyach gan gyllid grant, bydd y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau yn gweithio gyda rheolwyr grantiau i sicrhau bod y rhaglen gyllido yn cael ei diwygio neu ei chau yn unol â chodau ymarfer priodol. Bydd hyn yn digwydd yn barhaus.